| |
|
|
 |
 |
 |
- Rhaid cyflwyno’r holl geisiadau erbyn Medi 19eg 2008.
- Rhaid i ffurflenni cais gael eu harwyddo gan berson awdurdodedig o fewn y busnes. Ni dderbynnir unrhyw gopïau sydd heb eu harwyddo.
- Dylai’r holl wybodaeth a’r manylion a ddarparwyd ar bob ffurflen gais fod yn seiliedig ar berfformiad busnes neu uned busnes a leolir yng Ngheredigion - ni ddylid cyflwyno ystadegau o ganghennau, partneriaid neu unedau eraill heb eu lleoli o fewn y sir.
- Dim ond copïau gwreiddiol neu fersiynau e-bost o’r ffurflenni cais a ganiateir - peidiwch cyflwyno fersiynau wedi eu ffacsio, os gwelwch yn dda. Os ydych yn danfon eich cais drwy e-bost cofiwch sicrhau, os gwelwch yn dda, eich bod yn danfon e-bost ar y cyd yn cynnwys y manylion a nodir ar y datganiad.
- Mae penderfyniad y panel beirniadu/noddwyr/trefnwyr yn derfynol - ni fydd trefnwyr, beirniaid na noddwyr yn trafod unrhyw beth sy’n ymwneud â theilyngdod unrhyw gais, neu i’r gwrthwyneb.
- Caniateir i bob busnes ymgeisio mewn 3 categori’n unig.
- Nid yw’r gystadleuaeth yn agored i weithwyr unrhyw noddwyr, trefnwyr neu gwmnïau eraill sydd ag ymrwymiad uniongyrchol gyda dyfarnu’r gwobrau.
- Argymhellir y dylai ymgeiswyr amddiffyn unrhyw syniad gwreiddiol drwy batent neu ddull angenrheidiol arall gan na ellir rhoi’r cyfrifoldeb ar y trefnwyr, noddwyr neu feirniaid o ganlyniad i unrhyw hawliad neu achwyniadau a wneir mewn cysylltiad â cheisiadau am y gwobrau.
- Bydd yr holl ddeunydd a gyflwynir yn cael ei drin yn hollol gyfrinachol ac er y cymerir pob gofal, ni ellir derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu niwed i ddeunydd a gyflwynir.
- Ni all trefnwyr na noddwyr y gwobrau dderbyn cyfrifoldeb am ddilysrwydd unrhyw honiadau a wneir gan ymgeiswyr, er y cymerir pob gofal i wirio manylion a gyflwynir.
- Fe fydd manylion cyswllt busnes yr holl ymgeiswyr ar gael i noddwyr Gwobrau Busnes Ceredigion.
- A wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, fod holl adrannau’r cais yn cael eu llenwi mewn modd cryno gan ddefnyddio’r gwagle a ddarperir – dylai’r holl ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth ddigonol ar gyfer y panel beirniadu er mwyn gosod cefndir da i weithgareddau’r busnes sy’n ymgeisio. Peidiwch cyflwyno unrhyw fidios, cryno ddisgiau nag arteffactau swmpus. Fe gysylltir â chi os bydd y pwyllgor beirniadu angen mwy o wybodaeth.
|
|
|
|