|
Bydd 8fed Gwobrau Busnes Ceredigion yn cael ei gynnal yng Nghwesty’r Plu, Aberaeron ar Nos Fawrth, Tachwedd 11eg 2008.
Flywyddyn ar ôl blwyddyn mae’r digwyddiad yma wedi tyfu mewn poblogrwydd gyda dros 70 o fusnesau yng Ngheredigion yn ymgeisio llynedd. Mae yna 8 categori o fewn y gwobrau busnes eleni, a chroesawir noddwyr newydd, - Barclays, Photostatic, Lolfa a Llanllyr source.
Hefyd hoffem ddiolch i Cambrian News, y prif noddwr am gefnogaeth cyson ynghyd ag Antur Teifi, Cyngor Sir Ceredigion,Cyllid Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cered a Chlwb Busnes Aberystwyth. Mae Pugh Computers yn cynnig gwobr am y wefan orau eleni eto..
|